Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw safon ansawdd y DU ar gyfer yr holl sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddoli yn eu gwaith.
Mae’r safon yn galluogi sefydliadau i adolygu’n gynhwysfawr eu dull o reoli gwirfoddolwyr ac hefyd yn dangos yn gyhoeddus eu hymrwymiad i wirfoddoli.
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn rheoli Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yng Nghymru. Os ydych yn sefydliad sydd wedi ei leoli yng Nghymru a bod gennych ddiddordeb mewn cael mwy o wybodaeth am Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ewch i www.investinginvolunteers.org.uk a chlicio ar ‘Gymru’.
Mae dau opsiwn ar gael ar eich cyfer chi:
Opsiwn 1
Efallai eich bod am ddefnyddio Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fel fframwaith a model ar gyfer gwella eich arferion, a chewch lawrlwytho’r safonau yn rhad ac am ddim. Cewch ddewis cael eich asesu ar unrhyw adeg er mwyn ennil statws Gwirfoddoli mewn Pobl trwy fynd ymlaen i opsiwn 2.
Opsiwn 2
Mae’n ofynnol i sefydliadau sy’n dymuno ennill statws achrededig a chyflawni’r wobr Buddsddwyr mewn Gwirfoddolwyr gofrestru ar-lein. Cewch eich neilltuo i Gynghorydd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, neu os ydych am gael mwy o wybodaeth ar ‘arferion da’ mewn gwirfoddoli cysylltwch â ni.
Sylwer bod pob ymdrech wedi'i wneud i sicrhau bod y wefan hon yn gwbl ddwyieithog. Llenwch y ffurflen yn Saesneg os gwelwch yn dda gan nad oes gennym lawer o staff sy'n siarad Cymraeg. Diolch am fod yn ystyriol.