Os ydych yn recriwtio gwirfoddolwyr am y tro cyntaf, neu os ydych wedi bod yn elwa o wasanaethau cynorthwywyr parod a llawn cymhelliant ers blynyddoedd, gall Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg eich helpu i ddod o hyd i’r gwirfoddolwyr cywir ar gyfer eich sefydliad chi, eu rheoli, a gwneud yn siŵr eu bod yn aros.
Llwyddo gyda'n gilydd - Sut allwn ni helpu?
Os oes gennych wirfoddolwyr yn gweithio i'ch sefydliad chi – neu os ydych yn meddwl eich bod yn dymuno recriwtio gwirfoddolwyr – gallwch eich helpu chi â phopeth sy'n gysylltiedig â gwirfoddoli:
- Helpu denu gwirfoddolwyr iau
- Canllawiau ynglŷn ag asesiadau risg yn y gweithlu
- Cyngor ynglŷn â'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gweithio gydag oedolion a phlant sy'n agored i niwed
- Cwestiynau am dreuliau gwirfoddolwyr a'r effaith ar daliadau lles
- Arferion gorau wrth wirfoddoli
I gael gwybod sut y gallwn fod o fwy o gymorth cliciwch ar y pennawd uchod - Llwyddo gyda'n gilydd - sut y gallwn helpu.
Yr holl wybodaeth fydd ei hangen arnoch - Dalenni Gwybodaeth am Wirfoddoli i sefydliadau
Rydym wedi datblygu cyfres o ddalenni gwybodaeth gwerthfawr i bobl sy'n gweithredu sefydliadau di-elw.