
Beth yw ReBUILD?
Prosiect newydd yw ReBUILD a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi pobl sy'n byw yng Ngorllewin y Fro i wirfoddoli er mwyn eu helpu i ail-feithrin eu hyder, eu hunan-barch ac i leihau teimladau o fod yn ynysig.
Pam ‘Lles drwy Wirfoddoli’?
Dengys ymchwil fod llawer o bobl yn wynebu rhwystrau i wirfoddoli oherwydd salwch meddwl. Gallai hyn fod oherwydd:
- Diffyg hyder a/neu hunan-barch
- Teimlo'n ynysig neu'n orbryderus ynghylch sefyllfaoedd grŵp/cymdeithasol
- Diffyg cymhelliant
- Diffyg gwybodaeth am ble i ddechrau
Mae ReBUILD yn cydnabod hyn, felly gallwn addasu ein gwaith i ddiwallu unrhyw anghenion penodol sydd gan bobl wrth iddynt baratoi i wirfoddoli.
Mae gwirfoddoli yn gwneud i bobl deimlo'n iachach, yn hapusach, mae’n codi eu hwyliau ac yn rhoi ymdeimlad o bwrpas mewn bywyd a ffordd newydd ymlaen iddynt. Mae cymaint o fanteision a all ddeillio o wirfoddoli:
- Mae'n dda ar gyfer lles corfforol a meddyliol
- Mae'n helpu pobl i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau
- Mae'n gwneud i bobl fynd allan, sy’n helpu pobl i deimlo’n llai unig
- Mae'n helpu pobl i fagu hyder i wneud pethau newydd
- Mae'n rhoi trefn a strwythur i ddiwrnodau pobl
- Mae'n helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd a allai feithrin hunan-barch
- Mae'n cynnig cyfleoedd newydd i bobl gyflawni a chyfrannu drwy rywbeth maen nhw’n ei fwynhau
- Mae'n helpu pobl i gyflawni eu potensial a photensial pobl eraill yn y gymuned ehangach
........ Cael hwyl ar hyd y ffordd
Mae hyn i gyd yn wych ar gyfer lles corfforol a meddyliol rhywun. Dyna pam yr ydym ni’n dymuno gwneud yn siŵr bod pobl yn cael profiad da. Byddwn yn treulio amser gyda'r unigolyn ar y dechrau, i’w helpu i ddod o hyd i gyfle i wirfoddoli a fydd yn ddiddorol ac yn fuddiol iddo.
Sut i gymryd rhan
Os ydych yn byw yng Ngorllewin y Fro (unrhyw le i'r gorllewin o'r Barri) ac rydych yn byw â salwch meddwl, llenwch ffurflen atgyfeirio ReBUILD isod. Ar ôl i dîm ReBUILD gael eich ffurflen, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu sgwrs ynglŷn â’r prosiect. Os ydych chi’n meddwl bod ReBUILD yn addas ichi, byddwn yn gofyn ichi lenwi ffurflen gais fer a dewis pa lwybr at wirfoddoli yr hoffech ei ddilyn.
Llwybr UN – Gadewch inni eich cael chi’n gwirfoddoli â rhywfaint o gymorth ar hyd y ffordd.
Llwybr DAU – Cymerwch ran yn y Gweithdai Paratoi i Wirfoddoli. Bydd hyn yn eich helpu i chwalu rhai o'r rhwystrau sy'n eich atal chi rhag gwirfoddoli ac yn eich helpu i fagu hyder fel y byddwch yn teimlo’n barod i wirfoddoli.
Os ydych yn byw yng Ngorllewin y Fro ac mae gennych brofiad o fyw â salwch meddwl, byddem yn dwlu ar glywed gennych chi. Os ydych chi’n sefydliad neu’n grŵp gwirfoddol sy'n rhoi cymorth i unigolion, yna gallwch gysylltu â ni i wneud atgyfeiriad, gyda chaniatâd ymlaen llaw gan yr unigolyn. Mae'r broses yn un syml gan ein bod ni’n dymuno ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl fanteisio ar ReBuild.
Y Camau Nesaf
Cysylltwch â Thîm ReBuild naill ai drwy ffonio 01446 741706 neu drwy lenwi’r ffurflen isod.