
Mae’r ystafell gyfarfod yn gwbl hygyrch ac wedi ei lleoli ar y llawr gwaelod a gall ddal hyd at 10 o bobl yn gyfforddus. Mae’r cyfraddau am logi’r ystafell fel a ganlyn:-
Aelodau GVS gydag incwm o lai na £15000 y flwyddyn
£10 am ddiwrnod llawn
£5 am hanner diwrnod*
Aelodau GVS gydag incwm o fwy na £15000 y flwyddyn
£20 am ddiwrnod llawn
£10 am hanner diwrnod*
Tenantiaid Canolfan Fenter Cymuned y Barri
£30 am ddiwrnod llawn
£20 am hanner diwrnod*
Pobl nad ydynt yn aelodau
£40 am ddiwrnod llawn
£25 am hanner diwrnod*
Mae’r tâl am logi ar gyfer llogi’r ystafell yn unig. Gallai fod offer ar gael ond gallai fod angen talu am hyn. Cysylltwch â GVS i drafod.
*Mae cyfnod hanner diwrnod rhwng 9am a 12noon neu 1pm a 4pm.
Ni fyddwn yn darparu unrhyw fwyd a diod. Bydd angen i’r llogwr drefnu’r rhain ar wahân. Ni cheir defnyddio’r gegin ar y llawr gwaelod.
Cadarnhad o logi ystafell
Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig at y llogwr. Byddwn yn anfon anfoneb ar ôl y dyddiad y trefnwyd yr ystafell ar ei gyfer.
Polisi canslo
Bydd yn ofynnol i chi dalu’r ffi cyfan oni bai ein bod yn cael gwybod yn ysgrifenedig o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad/au llogi’r ystafell. Byddwn yn codi tâl am drefniadau sy’n cael eu canslo llai na 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad/au llogi’r ystafell neu am beidio â bod yn bresennol ar y diwrnod/au.
Defnyddio’r ystafell
Rhaid i ddefnyddwyr yr ystafell sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch. Gofynnir i ddefnyddwyr ddychwelyd yr holl ddodrefn i’w safleoedd gwreiddiol ar ôl y cyfarfod a sicrhau bod y drws allanol a’r ffenestri wedi eu cloi. Rhaid clirio unrhyw weddillion bwffe/diodydd.
I drefnu ystafell cysylltwch â GVS gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
Sylwer bod pob ymdrech wedi'i wneud i sicrhau bod y wefan hon yn gwbl ddwyieithog. Llenwch y ffurflen yn Saesneg os gwelwch yn dda gan nad oes gennym lawer o staff sy'n siarad Cymraeg. Diolch am fod yn ystyriol.