Mae Rhwydwaith Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles y Fro yn dod â sefydliadau’r trydydd sector (lleol, rhanbarthol a chenedlaethol) sy’n gweithredu ym Mro Morgannwg ac sydd â diddordeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd. Mae aelodaeth y Rhwydwaith hefyd yn agored i bartneriaid statudol a chewch ymuno am ddim.
Amcanion y Rhwydwaith yw:
- Dod â sefydliadau gwirfoddol at ei gilydd er mwyn cael llai cryf ar y cyd
- Cefnogi cyfranogiad y sector gwirfoddol wrth gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
- Cefnogi cyfranogiad y sector gwirfoddol mewn grwpiau cynllunio iechyd a gofal cymdeithasol
- Hwyluso cyfathrebu rhwng y sector gwirfoddol, statudol a sectorau eraill
- Dylanwadu ar bolisi iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau newid a gwella gwasanaethau
- Cynghori ar anghenion iechyd, gofal cymdeithasol a lles a bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth
- Hybu gwaith y sector gwirfoddol
Mae aelodau’r rhwydwaith yn cael:
- Gwybodaeth ddiweddar yn rheolaidd am iechyd, gofal cymdeithasol a lles
- Gwahoddiadau i ddigwyddiadau Rhwydwaith sy’n canolbwyntio ar bynciau penodol
- Y cyfle i gyfrannu at ddatblygiad polisi ac ymateb ar y cyd i ymgynghoriadau ar bolisïau
- Cefnogaeth i gyfrannu tuag at grwpiau cynllunio iechyd, gofal cymdeithasol a lles
- Y cyfle i rwydweithio gyda sefydliadau gwirfoddol eraill a’r sector statudol
- Cyfleoedd i hybu eu gwasanaethau
Cyflawniadau’r Rhwydwaith:
- Dros 250 o aelodau
- Cynhyrchu cyfeirlyfr o wasanaethau i ofalwyr a chyfeirlyfr o lyfrau ar gyfer pobl hŷn
- Cyflwyno Hyrwyddwr Trydydd Sector mewn meddygfeydd yn y Barri sy’n gweithredu fel dolen ar gyfer y trydydd sector
- Digwyddiadau ymgynghori ynglŷn â Gwasanaethau Cefnogi Pobl ar gyfer Pobl Hŷn a Rhaglen De Cymru
- Trefnu sioe deithiol trydydd sector, Keeping in Touch, yn Ysbyty Llandochau yn 2014
Adborth am y Rhwydwaith Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles:
"Mae’n rhaid i mi ddiolch i’r Tîm am yr holl waith rydych i gyd yn ei wneud. Mae gen’ i ganmoliaeth arbennig am eich gwaith oherwydd y cysylltiadau rwyf wedi eu datblygu trwy eich Cyfarfodydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r cyfle i rannu’r gwaith rydym yn ei wneud gyda phobl eraill."
Sut i ymuno:
Os ydych yn dymuno ymuno â’r Rhwydwaith, neu am gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01446 741706 neu cysylltwch â Linda Pritchard gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
Sylwer bod pob ymdrech wedi'i wneud i sicrhau bod y wefan hon yn gwbl ddwyieithog. Llenwch y ffurflen yn Saesneg os gwelwch yn dda gan nad oes gennym lawer o staff sy'n siarad Cymraeg. Diolch am fod yn ystyriol.