A ydych chi’n gofalu am rywun?
Cyfeirlyfr o gymorth, cyngor a gwybodaeth ar gyfer gofalwyr ym Mro Morgannwg a Chaerdydd
Rydym yn gwybod ei bod yn anodd weithiau i ofalwyr gael y cymorth y mae ei angen arnynt ac iddynt wybod pwy i gysylltu â nhw. Mae’r cyfeirlyfr hwn yn restr gynhwysfawr o wasanaethau i ofalwyr o bob oed ac mae’n cynnwys gwybodaeth am grwpiau hunangymorth, llinellau cymorth dros y ffôn, eiriolaeth, cymorth cymdeithasol a llawer o wasanaethau eraill.
Mae’r cyfeirlyfr wedi ei gynhyrchu gan GVS mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, Cyngor Caerdydd, Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae’r cyfeirlyfr ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg. I gael fersiwn Gymraeg o’r cyfeirlyfr, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch GVS ar 01446 741706. Cyfeirlyfr Caerdydd a’r Fro
Llawlyfr Gofalwyr
Mae’r llawlyfr hwn, a gynhyrchir gan Gyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a chyngor Caerdydd, yn darparu gwybodaeth sylfaenol ar y rhan fwyaf o’r pethau y mae angen i ofalwyr ei wybod. http://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/social_care/adult_services/caring_for_someone/caring_for_someone.aspx
Cyfeirlyfr o wasanaethau i bobl hŷn ym Mro Morgannwg a Chaerdydd
Mae’r cyfeirlyfr hwn, a gynhyrchir gan GVS, yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau a alli gynorthwyo pobl hŷn a gofalwyr. Mae’n rhestru gwasanaethau yn nhrefn y wyddor yn ôl y math o wasanaeth, e.e. eiriolaeth, cyfeillio, clybiau cinio, siopa. Cyfeirlyfr o wasanaethau i bobl hŷn 2013
Dewis Cymru
Gwefan yw Dewis Cymru sy’n bwriadu helpu pobl gyda’u llesiant. DYMA’r lle i fynd am bobl sydd eisiau gwybodaeth neu gyngor am lesiant – boed eu llesiant eu hunain neu lesiant aelod o’u teulu neu ffrind. http://www.dewis.cymru
Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a’r Fro a’r canllaw gwybodaeth ‘Ble Rydych yn Sefyll’
Mae Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a’r Fro yn cefnogi rhieni, gofalwyr a pherthnasau plant anabl ac oedolion ag anabledd dysgu. Maent yn darparu cyfleoedd i aelodau gyfarfod â’i gilydd i drafod materion sydd o ddiddordeb iddynt neu bryderon a chynrychioli safbwyntiau rhieni ynglŷn â’r gwasanaethau i bobl anabl, eu teuluoedd a’u gofalwyr mewn amrywiaeth eang o fforymau, grwpiau cynllunio ac ymgynghoriadau. Maent yn cynyrchu canllaw gwybodaeth, ‘Ble Rydych yn Sefyll’ sydd ar gael ar-lein ar y wefan.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd – cyfeirlyfr o wasanaethau cymorth i deuluoedd
Mae Gwasanaeth gwybodaeth i Deuluoedd Bro Morgannwg wedi creu cyfeirlyfr o wasanaethau cymorth i deuluoedd ym Mro Morgannwg. Mae’r wybodaeth hon yn werthfawr iawn i deuluoedd sydd â phlant 0-20 oed a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd. Edrych ar y cyfeirlyfr
Galw Iechyd Cymru
Mae gan Galw Iechyd Cymru Cyfeirlyfr Iechyd, lles a Chymorth ar-lein sy’n cynnwys manylion grwpiau lleol a sefydliadau cenedlaethol sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau iechyd, lles a chymorth. http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/localservices/searchlocalservices.aspx
Gweithredu dros Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro (Cavamh)
Sefydliad ambarel yw Cavamh sy’n gweithio gyda grwpiau yn y sector gwirfoddol sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl, defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl a gofalwyr yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Maent yn darparu ac yn rhannu gwybodaeth trwy eu:
- Gwefan – mae ein gwefan yn cynnwys newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth yn ogystal â’n cyfeirlyfrau.
- Cyfeirlyfrau –
- Cylchlythyron - Involvement News; Network News a Sefyll News