Rhai ffeithiau amdanom ni
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o sefydliadau mwyaf y GIG yn y DU. Rydym yn darparu gwasanaethau iechyd dyddiol i boblogaeth o ryw 472,400 o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg y mae angen gofal argyfwng, triniaeth wedi’i drefnu mewn ysbyty a gofal iechyd meddwl arnynt, yn ogystal â darparu gofal yng nghartrefi pobl ac mewn clinigau cymunedol.
http://www.billcaerdyddarfro.cymru.nhs.uk/
Newyddion o’r Bwrdd Iechyd
I gael y newyddion diweddaraf o’r Bwrdd Iechyd dilynwch y ddolen.
http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/latest-news
Siapio ein Lles i’r Dyfodol
Bwriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw gofalu am bobl a’u cadw’n iach. I wneud hyn, mae angen i ni gynllunio ar gyfer ein dyfodol. Mae angen i ni weithio o fewn ein cyllideb, i ddarparu’r gofal iechyd y mae bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn ogystal a’r bobl hynny sy’n byw yng Nghymru gyfan yn dymuno ei gael ac y mae angen iddynt ei gael.
Nod y rhaglen hon, a elwir yn Siapio ein Lles i’r Dyfodol, yw datblygu strategaeth y gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a Bro Morgannwg ei defnyddio i ddarparu gofal iechyd cynaliadwy o ansawdd da sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn dros y 10 mlynedd nesaf.
http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/shaping-our-future-wellbeing
Y Bwrdd
Mae aelodau Bwrdd y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn Gyfarwyddwyr Gweithredol, a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol, ac yn Aelodau Bwrdd Annibynnol, a benodwyd i’r Bwrdd Iechyd Prifysgol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol trwy broses benodiadau cyhoeddus agored a chystadleuol.
http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/board-members
Cyfarfodydd Bwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Cynhelir Cyfarfodydd Bwrdd yn rheolaidd ac maent yn agored i’r cyhoedd. Mae hyn yn caniatáu i’r cyhoedd weld bod penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn modd agored a thryloyw. Mae hefyd yn dangos bod y Bwrdd Iechyd yn atebol i drigolion Caerdydd a Bro Morgannwg. I gael mwy o wybdoaeth, ac i gael gwybod sut i fynychu, dilynwch y ddolen:
http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/board-meetings
‘On Board’ – sesiynau briffio yn dilyn Cyfarfodydd y bwrdd
Mae ‘On Board’ yn sesiwn briffio rheolaidd ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gan Margaret McLaughlin, Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) o Fwrdd Iechyd Caerdydd a Bro Morgannwg a Hyrwyddwr Gofalwyr y Bwrdd Iechyd.
Rhaglen De Cymru
Mae Rhaglen De Cymru yn cynnwys y pum Bwrdd Iechyd yn ne Cymru – Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Caerdydd a Bro Morgannwg, Cwm Taf a Powys – yn gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i greu gwasanaethau ysbyty diogel a chynaliadwy i bobl sy’n byw yn ne Cymru a de Powys.
Clinigwyr rheng flaen sydd wedi arwain gwaith y rhaglen – meddygon, nyrsys, bydwragedd a therapyddion – gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau ysbyty arbenigol o ansawdd uchel ac sy’n ddiogel sy’n gwella gofal y cleifion mwyaf sâl a’r rhai sydd wedi eu hanafu fwyaf.
http://www.wales.nhs.uk/SWP/home
Dewis Doeth
Bydd Dewis Doeth yn eich helpu i benderfynu a oes angen sylw meddygol arnoch os ydych yn mynd yn sâl. Mae’n esbonio’r hyn y mae pob gwasanaeth GIG yn ei wneud, a phryd y dylid eu defnyddio. Mae gwneud Dewis Doeth yn golygu y byddwch chi a’ch teulu yn cael y driniaeth orau. Bydd hefyd yn caniatáu i wasanaethau GIG prysur helpu’r bobl y mae arnynt yr angen mwyaf amdanynt.
Os nad ydych yn gwybod pa opsiwn i’w ddewis, dewiswch cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47
http://www.choosewellwales.org.uk/home
Galw Iechyd Cymru
Mae Galw Iechyd Cymru yn wasanaeth cyngor a gwybodaeth am iechyd sydd ar gael 24 awr y dydd, bob dydd. Cewch ffonio 0845 46 47 os ydych yn teimlo’n sâl ac yn ansicr o’r hyn ddylech chi ei wneud, neu i gael gwybodaeth iechyd am amrywiaeth eang o gyflyrrau, triniaethau a gwasanaethau iechyd lleol. I sicrhau diogelwch cleifion, caiff pob galwad ei recordio.